Goruchwyliaeth

Cyflwynir sesiynau goruchwylio proffesiynol ar gyfer grwpiau neu unigolion gan ein Prif Swyddog Gweithredol, Tracy Pike MBE.

Mae Tracy yn athrawes gymwys ac mae ganddi dros 40 mlynedd o brofiad o weithio gyda phlant, pobl ifanc a theuluoedd. Mae hi hefyd yn ymarferydd straen cymwys, ac yn gymrawd yn ogystal â bod yn hyfforddwr cymeradwy i gymdeithas yr ISMA. Mae Tracy wedi datblygu ein gwasanaethau lles a'n rhaglen cadernid. Yn 2017, cafodd MBE am wasanaethau i blant a'u teuluoedd. Mae hi hefyd wedi sicrhau contract gyda'r Bwrdd Iechyd i arwain ar bresgripsiynu cymdeithasol yn Llanelli.

Buddion goruchwylio proffesiynol:

  • Amser dynodedig i fyfyrio ar eich dull gweithredu
  • Eich helpu chi i ddarparu gwell gwasanaeth i gleientiaid
  • Cydnabod eich cryfderau personol a phroffesiynol
  • Nodi meysydd i'w datblygu
  • Archwilio eich ymateb personol i'r gwaith
  • Cynyddu’ch hyder yn eich sgiliau a'ch cymhwysedd
  • Cael adborth ac arweiniad
  • Trafod materion sy'n ymwneud â gwaith, a hynny’n gyfrinachol
  • Ystyried yr effaith y mae'r gwaith yn ei gael arnoch chi a datblygu cadernid

 


 

Cookie Notice

This website stores data such as cookies to enable important site functionality including analytics. You may alter your preferences at any time or accept the default settings. Learn more here

Back to top