Ein Stori

Mae CYCA yn elusen blant gofrestredig sy'n gweithredu ledled Sir Gâr a thu hwnt.

Fe’m sefydlwyd yn 1980, ac rydym yn arbenigo mewn darparu cefnogaeth iechyd a lles emosiynol i blant, pobl ifanc a theuluoedd trwy ystod o brosiectau a gwasanaethau. Yn y pen draw, nod pob un o’r rhain yw gwella bywydau’r bobl yr ydym yn gweithio gyda nhw.

Ein gweledigaeth yw byd lle mae gan bob plentyn gartref diogel, cariadus, lle rhoddir pob cyfle iddynt ffynnu a chyrraedd eu potensial trwy fyw bywyd iach, hapus a chyflawn.

Ein cenhadaeth yw darparu gwasanaethau cefnogaeth rhagorol i blant, pobl ifanc, a theuluoedd ledled Sir Gâr a thu hwnt ym meysydd iechyd a lles emosiynol, hyfforddiant, chwarae, addysg ac iechyd corfforol.

Mae popeth a wnawn yn ymwneud â hyrwyddo lles cadarnhaol a grymuso unigolion i gyflawni eu potensial; mae ein gwaith yn rhagweithiol ac yn annog dysgwyr i adeiladu system gred gref.

Our Projects

CYCA ROOTS

Mae ROOTS yn sefyll am Resilience Offers Opportunities for Success (‘Mae Cadernid yn Rhoi’r Cyfle i Chi Lwyddo’). Mae'n rhaglen sy’n rhoi cymorth i deuluoedd sy'n cynnig cefnogaeth dros gyfnod hir i wella cyrhaeddiad plant yn yr ysgol a gwella cyflogadwyedd rhieni. Mae'r prosiect yn gwneud hyn trwy wella lles a chadernid teuluoedd sydd â phroblemau iechyd meddwl lefel isel, drwy gynnig rhaglen hyfforddi achrededig bwrpasol i gefnogi teuluoedd.

Sefydliad Banc Lloyds

Pwrpas yr arian hwn yw rhoi cefnogaeth i bobl ifanc sy'n gadael y system gofal neu sydd ar ei chyrion.

Mae'r mentora yn darparu cwnsela, help i ysgrifennu CV, technegau cyfweliad, hylendid personol, rheoli arian a choginio ar gyllideb.

Presgripsiynu Cymdeithasol

Mae CYCA yn darparu gwasanaeth presgripsiynu cymdeithasol unigryw i Glwstwr Meddygon Teulu Llanelli.

Mae plant sy'n dioddef o ran iechyd meddwl a lles yn cael eu cyfeirio atom trwy eu meddyg teulu. Nid yw'r plant hyn yn bodloni’r meini prawf ar gyfer CAMHS (Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a'r Glasoed).

Mae'r plant hyn yn rhan o system deuluol, a rhaid inni weithio gyda'r system honno.

Mae pob teulu'n dioddef straen gwahanol, felly mae ein gwasanaethau’n cynnig rhaglen bwrpasol.

Rydym yn cyflogi tîm o swyddogion a chwnselwyr profiadol iawn. Mae aelodau'r teulu’n rhan o’r cynllunio wrth drefnu eu cefnogaeth. Nid yw'n wasanaeth tymor byr - gallwn eu cefnogi am hyd at 9 mis.

Cookie Notice

This website stores data such as cookies to enable important site functionality including analytics. You may alter your preferences at any time or accept the default settings. Learn more here

Back to top