Hyfforddiant Gwytnwch Proffesiynol

 Mae COVID wedi rhoi llawer o gyfleoedd i CYCA i dyfu a datblygu ein model busnes. Mae un o’n nodau hirdymor, cyffredinol, sef darparu hyfforddiant proffesiynol ledled Cymru wedi’i wireddu. ‘Rydym wedi hyfforddi gweithwyr proffesiynol o bedwar cwr Cymru, y diweddaraf ohonynt ym Machynlleth. 

Mae ein Hyfforddiant Gwytnwch Proffesiynol wedi’i wahaniaethu ac wedi’i gynllunio i ystyried y strwythur a’r rolau ymhob mudiad.  ‘Rydym yn cynnig hyfforddiant o’r brig i lawr - mae’r Rheolwyr Hŷn a’r Timau Arwain yn astudio Gwytnwch Achrededig, a staff y rheng flaen y fersiwn anachrededig. ’Rydym yn dewis cynnig hyfforddiant yn y ffordd yma am y rheswm canlynol – os oes gan y mudiad cyfan iaith wydn newydd gall rheolwyr gefnogi a goruchwylio eu cydweithwyr mewn ffordd wydn. Mae cefnogaeth cymar wrth gymar yn ffordd effeithiol o gynnal eraill. 

Mae’r hyfforddiant hwn yn crynhoi hyrwyddo a deall iechyd emosiynol a lles, mae’n hyrwyddo arfer da ac yn gallu ysgogi’r meddwl gan roi i gydweithwyr, ar unwaith, yr arfau a’r strategaethau i’w defnyddio’n syth ar ȏl y cwrs. Roedd un grŵp o weithwyr canolfan alwadau a oedd wedi mynychu’r sesiwn yng nghanol shifft wedi rhoi adborth ar unwaith, gan ddweud; “byddwn yn rhoi cynnig ar y technegau daearu ac anadlu pan fyddwn yn dychwelyd i’n shifft”.

Mae’r cwrs yn ein hatgoffa bod pawb yn wydn, bob pawb yn profi cyfnodau caled a’n bod yn dod yn llai gwydn yn sgil y cyfnodau caled hynny. Mae angen harneisio “angor emosiynolsef person y gallwch ddibynnu arno/arni, i’ch cynnal yn ystod y cyfnodau caled hynny. Po fwyaf y byddwn yn profi’r cyfnodau caled hynny a goroesi, po gryfaf y byddwn yn y pen draw”.

Mae ein gwerthuso ac adborth yn amlwg, ac yn amlygu’r effaith ddofn y mae hyfforddiant gwytnwch proffesiynol yn cael ar ein cydweithwyr. Mae staff rheng flaen meithrinfa sydd wedi gweithio drwy gydol y pandemig wedi dweud eu bod wedi bod ar bigau’r drain ac, yn aml, mewn meddylfryd ‘modd panig’.  Dywedodd un gweithiwr proffesiynol arall,“Roeddwn i’n meddwl ei fod yn un arall o’r cyrsiau hynny ‘pum ffordd i llesiant’; roeddwn wedi tanbrisio’r cwrs yn ddifrifol ac wedi fy synnu bod gennyf, o fewn 2 awr, sawl strategaeth i’w defnyddio pan fyddwn yn dychwelyd i’r gwaith, a’u defnyddio nid yn unig yn y gwaith, ond yn y cartref hefyd”.

Mae’r hyfforddiant dilynol yn cynnwys:

  • Deallusrwydd Emosiynol
  • Rheoli a datrys gwrthdaro
  • Sgiliau cwnsela i’r rhai nad ydynt yn gwnselwyr

Am wybodaeth bellach cysylltwch, os gwelwch yn dda, â Kath@cycaonline.org neu lianna@cycaonline.org am ragor o wybodaeth ynghylch cost y cwrs.

Cookie Notice

This website stores data such as cookies to enable important site functionality including analytics. You may alter your preferences at any time or accept the default settings. Learn more here

Back to top