Mae ein cyllid prosiect ROOTS yn dod i ben ym mis Awst 2021. Mae wedi bod yn brosiect llwyddiannus a hoffem ddiolch i Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol am eu cefnogaeth ac am wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau cymaint o bobl.
Diolch yn fawr!
Mae’r tîm ROOTS yn parhau i weithio’n uniongyrchol gyda theuluoedd yn ein cymuned i adeiladu gwytnwch a darparu cyfleodd am lwyddiant.
Mae Julie a Rachel wedi cynnal nifer o weithdai wyneb yn wyneb i gyflwyno’r cwrs ‘Gwella’ch hun o Flinder Adrenal’
Dyma’r ffactorau sy’n effeithio ar Flinder Adrenal:
Hwn yw’r pedwerydd grŵp o ddysgwyr ac mae’r adborth o ran caffael gwybodaeth am, a deall, Blinder
Adrenal wedi bod yn bositif iawn.
Mae dysgu am, a bod yn ymwybodol o’r ffordd y maen nhw’n gweithredu drwy straen, a bywyd bob dydd wedi bod yn fuddiol iawn ac, erbyn hyn, mae llawer ohonynt yn gwneud newidiadau bach i’w bywydau e.e. arfer gofal y croen, rhoi cynnig ar ryseitiau bwyta’n iachus CYCA (ryseitiau a gyflwynwyd gan ddysgwyr) a pharhau gyda’r ymarferion ymestyn syml.
Fel gwaddol parhaol ROOTS, mae’r tîm yn y broses o gefnogi ac hyfforddi ein Mamau mentor gwych.
Mae ein Mamau mentor yn dilyn hyfforddiant mewn Mentora Cyfoedion, Diogelu, Hylendid Bwyd Trin â Llaw, Cyfleoedd Cyfartal a Chymorth Cyntaf. Ochr yn ochr â’n Prif Swyddog Gweithredol, mae’r mamau mentor wedi bod yn dysgu sgiliau newydd yn ein gweithdai Cerameg ar gyfer y Dyfodol
Yn ychwanegol at hyn, mae’r tîm wedi bod yn brysur gydag ystod o gyrsiau achrededig ac anachrededig ar y themáu canlynol:
Mae’r Diwrnodau Gwener Ffitrwydd wedi esblygu, ac ‘rydym wedi dechrau ein grŵp wellbeingwalking@thedocks, gyda rhieni a phlant.
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â: Kath Bowen, Uwch-Reolwr Hyfforddiant kath@cycaonline.org neu
01554 776178
Cookie Notice
This website stores data such as cookies to enable important site functionality including analytics. You may alter your preferences at any time or accept the default settings. Learn more here.