Mentora

Bydd un o bob tri pherson ifanc yn tyfu lan heb gael mentor.

Gall mentora helpu pobl ifanc wrth iddynt ddelio â newidiadau heriol ac anodd yn eu bywyd. Gallai hyn fod yn delio â straen newidiadau yn y cartref, neu'n pontio i fywyd fel oedolyn.

Buddion mentora i'r mentor:

  • Gwella sgiliau cyfathrebu
  • Caniatáu ichi roi rhywbeth yn ôl i'ch cymuned
  • Gwneud gwahaniaeth cadarnhaol ym mywyd rhywun
  • Bod yn esiampl da i bobl eraill

Buddion mentora i'r mentai:

  • Caniatáu i'r person ifanc siarad â rhywun am unrhyw broblem y mae'n ei hwynebu
  • Adeiladu perthynas gadarnhaol â’i fentor
  • Gwella ei hunan-barch a'i hyder
  • Gwella ei sgiliau cyfathrebu
  • Perthynas gryfach â rhieni, cyfoedion ac athrawon.

Os ydych chi am ddod yn fentor neu'n teimlo y gallech chi elwa o gael eich mentora, neu os oes gennych chi unrhyw gwestiynau eraill, cysylltwch â ni:

01554 776178

support@cycaonline.org

 


 

Cookie Notice

This website stores data such as cookies to enable important site functionality including analytics. You may alter your preferences at any time or accept the default settings. Learn more here

Back to top