Plant sy’n derbyn gofal

Mae CYCA yn cyflwyno Prosiect Sefydliad Banc Lloyds sy'n darparu cymorth mentora pwrpasol i bobl ifanc sy’n gadael y system gofal, sef cynnig cefnogaeth i gynyddu lles a datblygu sgiliau er mwyn i’r unigolion hyn allu byw’n annibynnol. Mae Prosiect Sefydliad Banc Lloyds yn rhoi’r cyfle i bobl ifanc hyn gofrestru ar unedau achrededig Agored Cymru, yn ogystal â chynnig gofal plant am ddim iddynt. Yn sail i hyn, mae Model Cadernid CYCA. Gellir cynnig cefnogaeth mewn grwpiau bach neu i unigolion.

Ein Gwaith gyda Phlant a Phobl Ifanc

Rydym yn cynnig cymhwyster hyfforddi arbenigol i blant a phobl ifanc. Mae'r cyrsiau'n rhan o’r Fframwaith Addysg Bersonol a Chymdeithasol Cymru. Mae'r plant yn cael cyfle i ddilyn y cyrsiau mewn grwpiau bach neu fel unigolion.

Sefydlir y grwpiau trwy weithio'n agos gyda'r ganolfan deuluol leol, canolfannau cymunedol integredig ac ysgolion. Mae’r cyrsiau un i un yn cael eu cyflwyno drwy ein pecyn mentora cymorth a lles, a ddarperir ar gyfer y plant.

Cookie Notice

This website stores data such as cookies to enable important site functionality including analytics. You may alter your preferences at any time or accept the default settings. Learn more here

Back to top