Cwnsela

Mae cwnsela yn therapi siarad sy'n cynnwys therapydd hyfforddedig yn gwrando arnoch chi, ac yn eich helpu i ddod o hyd i ffyrdd o ddelio â phroblemau emosiynol.

Weithiau, defnyddir y term "cwnsela" i gyfeirio at therapïau siarad yn gyffredinol, ond mae cwnsela hefyd yn fath o therapi ynddo'i hun.

 

Sut all cwnsela helpu?

Gall cwnsela eich helpu i ymdopi â:

  • cyflwr iechyd meddwl, fel iselder ysbryd, pryder neu anhwylder bwyta
  • cyflwr iechyd corfforol sydd wedi achosi siom i unigolyn, fel anffrwythlondeb
  • digwyddiad anodd yn eu bywyd, fel profedigaeth, perthynas yn chwalu neu straen sy'n gysylltiedig â
    gwaith
  • emosiynau anodd - er enghraifft, hunan-barch isel neu ddicter
  • materion eraill, megis hunaniaeth rywiol

Yn CYCA, mae genym gwnselwyr hyfforddedig sydd â phrofiad o weithio gyda phlant, pobl ifanc a'u teuluoedd. Rydyn ni'n gwybod bod gan bob person ei broblemau ei hun, a'i ffordd ei hun o ddelio â phethau, ac rydyn ni'n addasu ein ffordd o weithio er mwyn cefnogi anghenion pob unigolyn.

Mae cwnsela yn rhan allweddol o'n gwaith, ac rydym yn fwy na pharod i drafod beth fyddai hyn yn ei olygu i chi. Cysylltwch â ni:

01554 776178

support@cycaonline.org

Cookie Notice

This website stores data such as cookies to enable important site functionality including analytics. You may alter your preferences at any time or accept the default settings. Learn more here

Back to top