Ym mis Ionawr 2016, daethom yn ganolfan hyfforddi achrededig gydag ‘Agored Cymru’. Mae hyn wedi caniatáu inni ychwanegu gwerth at ein gwasanaethau cymorth llesiant presennol. Yn ogystal â helpu i wella bywydau pobl trwy eu cynorthwyo i wella eu lles a'u cadernid cyffredinol, rydym bellach yn gallu cynnig amrywiaeth o gymwysterau i’r plant, y bobl ifanc a'r teuluoedd hyn, sy'n eu helpu i wella eu sgiliau sylfaenol, cyfleoedd bywyd a hefyd rhagolygon o ran cyflogaeth.
Rydym hefyd yn darparu hyfforddiant arbenigol i weithwyr proffesiynol sy'n gweithio gyda phlant. Mae’r hyfforddiant hwn yn rhoi gwell dealltwriaeth o'r plant a'r bobl ifanc y maent yn gweithio gyda nhw. Bydd hyn yn caniatáu iddynt wella eu perthynas â'r plant a'r bobl ifanc hynny, yn ogystal â gwella ansawdd y gwasanaeth y maent yn ei ddarparu. Yn y pen draw, bydd hyn yn rhoi’r cyfle gorau i'r plant a'r bobl ifanc ffynnu, a chyflawni eu potensial yn yr amgylchedd hwnnw.
Gellir gweld manylion llawn yr hyfforddiant Datblygiad Proffesiynol Parhaus a ddarparwn ar ein Tudalennau Proffesiynol.
Dyma ein grŵp cyntaf o ddysgwyr sy’n gysylltiedig â'r prosiect ROOTS.
Mae ymgysylltu’n llwyddiannus â dysgwyr sydd wedi cymryd rhan yn ein modiwl dysgu cadernid, wedi ein helpu i wella ein cyrsiau, a hynny oherwydd bod y dysgwyr hyn wedi nodi cynnydd mawr o ran lles emosiynol o ganlyniad i gymryd rhan yn ein modiwl.
Rydym wedi nodi bod gosod nodau yn rhan annatod o gynyddu cymhelliant a dyhead yr unigolyn i wella ei gadernid ei hun, yn ogystal â chadernid y teulu.
Mae dysgwyr wedi cymryd eu camau cyntaf tuag at weithio tuag at eu nodau.
Mae unigolion eisoes wedi ystyried cyfleoedd i wirfoddoli, ceisio am le mewn coleg a gwneud cais i gael swydd.
Mae 95% wedi nodi cynnydd yn eu lles emosiynol ar ôl dilyn un cwrs achrededig.
Mae 100% o'r grŵp yn gwneud cynnydd wrth gyflawni eu nodau.
Mae 80% o’r grŵp wrthi'n datblygu sgiliau er mwyn gallu dychwelyd i'r gwaith.
Mae 100% o'r grŵp yn ystyried eu grŵp cyfoedion fel cyfrwng i roi cefnogaeth.
Mae'r ystadegau’n cadarnhau ein cred, bod modd codi dyhead rhywun trwy gyfrwng addysg a hyfforddiant, a bod hyn yn cael effaith gadarnhaol ar unigolion a'u teuluoedd.
Mae ein gwaith prescripsiynu cymdeithasol yn darparu cefnogaeth cadernid i blant a'u rhieni na allant ddefnyddio gwasanaethau CAMHS. Hyd yma, rydym wedi cefnogi pobl ifanc i reoli eu dicter a'u hiselder, sydd wedi eu cynorthwyo i wneud cynnydd yn yr ysgol. Rydym yn gweithio'n gyfannol gyda'r teulu cyfan trwy ddarparu cefnogaeth ym meysydd sy’n amrywio o gadernid digidol, i dosbarthiadau ffitrwydd rhieni a phlant. Rhan hanfodol o'r gwaith presgripsiynu cymdeithasol yw darparu mentor â chymwysterau addas i weithio ar sail 1:1 gyda'r plant.
Rydym yn darparu amrywiaeth o gyrsiau i rieni, p'un ai eu bod er mwyn helpu gyda phroblemau teuluol a dulliau ymdopi, neu i wella sgiliau a chefnogi rhieni ifanc ar gyfer byd gwaith, newid gyrfa neu hyfforddiant parhaus.
Cookie Notice
This website stores data such as cookies to enable important site functionality including analytics. You may alter your preferences at any time or accept the default settings. Learn more here.