‘Rydym yn darparu cefnogaeth ataliol ac argyfwng ar gyfer plant sy’n agored i newid, ieuenctid a’u teuluoedd. Drwy fentora, gwaith therapi a chefnogi teuluoedd, ‘rydym yn helpu adeiladu cadernid pobl a rhoi iddynt y tŵls sydd eu hangen i ymdopi â heriau bywyd.
‘Rydym yn darparu hyfforddiant achrededig i deuluoedd i’w helpu nhw i wella eu lles, ac er mwyn iddynt allu ennill sgiliau a chymwysterau a fydd yn eu galluogi i adeiladu dyfodol mwy disglair. ‘Rydym hefyd yn hyfforddi gweithwyr proffesiynol eraill sy’n gweitho gyda plant a theuluoedd.
‘Rydym yn darparu cefnogaeth i blant oedran cyn-ysgol a’u teuluoedd yn ein meithrinfeydd Dechrau’n Deg. Mae hefyd gennym feithrinfa anogaeth arbenigol, sy’n darparu amgylchedd ysgogol, synhwyraidd a diogel lle gall plant ifanc archwilio a chwarae.
‘Rydym yn darparu clybiau ar ȏl ysgol a chlybiau chwarae yn y gwyliau i blant 3 – 11 mlwydd oed mewn amrywiaeth o leoliadau. Cael hwyl a sbri mewn amgylchedd ddiogel ac ysgogol yw prif amcan y clybiau ond, serch hynny, mae lles corfforol ac emosiynol y plant y cael lle blaenllaw yn ein gweithgareddau.
Cookie Notice
This website stores data such as cookies to enable important site functionality including analytics. You may alter your preferences at any time or accept the default settings. Learn more here.