Pwrpas ein prosiect Lles Y Bwyd oedd lliniaru'r pwysau o dlodi bwyd i deuluoedd yn ystod gwyliau'r ysgol. Cynhaliwyd y prosiect o'r 23ain o Orffennaf tan y 22ain o Awst. Cawsom lawer iawn o atgyfeiriadau ac roeddem wedi'u harchebu yn gyflym.

Cyfanswm dros y pum wythnos gwnaethom weini 319 o frecwast maethlon, 370 o ginio iach a 301 o bobl dros y pum wythnos yn mynychu'r sesiynau coginio teuluol yn y prynhawniau.

"Roedden ni'n mwynhau chwarae coginio a cherdded. Roedd y plant yn brysur ac fe ges i ychydig o orffwys. Hefyd roedden ni'n coginio gyda'n gilydd felly roedden nhw'n hapus i gymryd rhan. Yn ogystal, roedd y bwyd yn flasus ac roedd yr holl wirfoddolwyr yn ofalgar iawn ac yn ddymunol, diolch." ~ Rhiant
"Dysgais lawer am fwyta'n iach a sut i wneud prydau gyda bwydydd iach." ~ Rhiant
"Roedd yn helpu fy mab gyda sgiliau coginio a hefyd i fwyta bwyd na fyddai fel arfer yn ceisio." ~ Rhiant
"Daeth â fy mab a'i dad yn agosach at ei gilydd eto." ~ Rhiant
"Mae wedi dangos i'm mab bod yn rhaid iddo rannu a chymryd tro pan ddaw i weithgareddau." ~ Rhiant
"Mae'r prosiect wedi fy helpu i rannu chwarae gyda fy mhlentyn a rhyngweithio mwy." ~ Rhiant
"Dysgais sgiliau coginio newydd ac ennill hyder." ~ Rhiant
"Mae wedi fy helpu i wella fy sgiliau cyfathrebu." ~ Rhiant

Cookie Notice

This website stores data such as cookies to enable important site functionality including analytics. You may alter your preferences at any time or accept the default settings. Learn more here

Back to top