Diweddariad 2021

Er gwaethaf Covid-19, y cyfnodau clo a chyfyngiadau cymdeithasol ‘rydym yn dal i ddarparu cefnogaeth ataliol ac argyfwng i deuluoedd lleol, agored i niwed, drwy fentora, gwasanaethau cwnsela, hyfforddiant a chefnogaeth deuluol.

Eleni, yn fwy nag erioed, ‘rydym yn gweld yr angen am gwnsela yn ei gyfanrwydd, ac yn hynod falch ein bod wedi penodi cwnselydd ardderchog, llawn-amser i’n galluogi ni i gefnogi mwy o bobl sydd mewn angen. ‘Rydym hefyd wedi recriwtio ymarferwr chwarae therapiwtig, am fod llawer o’r rhai sy’n cael eu cyfeirio atom yn deuluoedd ifancach, gyda phlant ifanc. 

‘Rydym yn dal i ddarparu hyfforddiant achrededig ac anachrededig i deuluoedd – arlein, ac yn bersonol pan fo’r cyfyngiadau yn caniatáu gwneud hynny.

‘Rydym hefyd yn darparu cefnogaeth i blant oed cyn-ysgol drwy ein gwasanaeth meithrin Dechrau’n Deg a’r gwasanaeth cofleidiol. Yn ychwanegol, ‘rydym yn darparu créche arbenigol teithiol.

‘Rydym yn falch iawn ein bod wedi derbyn ail flwyddyn o waith presgripsiynu cymdeithasol gan Feddygon Teulu Llanelli. I’r rhai sydd wedi derbyn ffurflen gyfeirio oddiwrth y Meddyg Teulu, mae’r cynnig hwn yn cynnwys cwnsela a chymorth pwrpasol i blant, pobl ifanc a’u teuluoedd.

Dyma arolwg cyflym o’n prosiectau cyfredol yn 2021:

Plant mewn Angen; prosiect yn gweithio gyda Phlant Cynradd Blwyddyn 6

Ysgol Bryn Teg - Digi Clwb
Mae ein prosiect diogelwch digidol arlein wedi dod ar yr adeg iawn i blant Blwyddyn 6, Ysgol Bryn Teg. Mae wedi bod yn galonogol i’r plant i drafod eu pryderon yn agored ac yn onest, a deall pwysigrwydd cadw’n ddiogel arlein drwy chwarae creadigol.

‘Roeddwn ni wedi creu a chyflenwi PowerPoint Digi Clwb mewn Gwasanaeth i’r Ysgol Gyfan; roedd hyn yn bwysig gan ei fod wedi galluogi pob grŵp blwyddyn i glywed y negeseuon oddiwrth Blwyddyn 6. Roedd hyn yn cysylltu’r plant trwy rannu diddordeb cyffredin, agwedd sydd o’r pwys mwyaf wrth rymuso plant ac ieuenctid i wneud penderfyniadau doeth a diogel pan yn gweithredu arlein. 
Roedd y prosiect wedi derbyn adborth ardderchog, ac mae’r ysgol yn gobeithio ei gyflwyno i grwpiau blwyddyn eraill.

Prosiect ROOTS GWREIDDIAU CYCA (Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol)

Mae’r tîm ROOTS yn parhau i weithio’n uniongyrchol gyda theuluoedd yn ein cymuned i adeiladu gwytnwch a darparu cyfleodd am lwyddiant. 

Mae Julie a Rachel wedi cynnal nifer o weithdai wyneb yn wyneb i gyflwyno’r cwrs ‘Gwella’ch hun o Flinder Adrenal’
Dyma’r ffactorau sy’n effeithio ar Flinder Adrenal:

  1. Maeth – effaith a buddion deiet iachus ar y corff
  2. Emosiwn – sut ydych chi’n delio â straen? Pa fath o berson ydych chi?
  3. Deall yr wybodaeth o gwmpas Blinder Adrenal (BA) – y goblygiadau ar y corff, a’r effaith y mae yn cael ar Flinder Arenal.
  4. Cymdeithasol – arfer hunanofal, er mwyn cynnig awgrymiadau ynghylch edrych ar ȏl eich lles. 

Hwn yw’r pedwerydd grŵp o ddysgwyr ac mae’r adborth o ran caffael gwybodaeth am, a deall, Blinder Adrenal wedi bod yn bositif iawn. Mae dysgu am, a bod yn ymwybodol o’r ffordd y maen nhw’n gweithredu drwy straen, a bywyd bob dydd wedi bod yn fuddiol iawn ac, erbyn hyn, mae llawer ohonynt yn gwneud newidiadau bach i’w bywydau e.e. arfer gofal y croen, rhoi cynnig ar ryseitiau bwyta’n iachus CYCA (ryseitiau a gyflwynwyd gan ddysgwyr) a pharhau gyda’r ymarferion ymestyn syml.

Julie a Rachel yn cyflwyno’r cwrs Blinder Adrenal.

Julie a Rachel yn cyflwyno’r cwrs Blinder Adrenal.

Fel gwaddol parhaol ROOTS, mae’r tîm yn y broses o gefnogi ac hyfforddi ein Mamau mentor gwych.

Mae ein Mamau mentor yn dilyn hyfforddiant mewn Mentora Cyfoedion, Diogelu, Hylendid Bwyd Trin â Llaw, Cyfleoedd Cyfartal a Chymorth Cyntaf. Ochr yn ochr â’n Prif Swyddog Gweithredol, mae’r mamau mentor wedi bod yn dysgu sgiliau newydd yn ein gweithdai Cerameg ar gyfer y Dyfodol (llun isod). 

Gweithdy Cacennau Cwpan Carrie

Mae Carrie wedi datblygu gweithdy pobi ac addurno cacennau cwpan ar gyfer ein teuluoedd, ac yn y broses o gynllunio ei hail weithdy.

Yn ychwanegol at hyn, mae’r tîm wedi bod yn brysur gydag ystod o gyrsiau achrededig ac anachrededig ar y themáu canlynol:

  • Byw mewn ffordd iach
  • Gwytnwch
  • Datblygiad Plant a Phobl Ifanc
  • Diogelu

 

Mae’r Diwrnodau Gwener Ffitrwydd wedi esblygu, ac ‘rydym wedi dechrau ein grŵp wellbeingwalking@thedocks, gyda rhieni a phlant.

Prosiect Thomas Walls Trust:

Gwytnwch Digidol a Chyflwyniad at becynnau Microsoft.

Mae’r cwrs anachrededig hwn yn datblygu sgiliau i adeiladu gwytnwch digidol drwy ddefnyddio a chyflwyno Word, Excel, PowerPoint a Publisher. Mae’r prosiect yn codi hyder ac yn annog y cyfranogwyr i ddefnyddio teclynnau, pecynnau a llwyfannau digidol.
‘Rydym yn cefnogi’r cyfranogwyr i greu PowerPoint ar gyfer cyfweliad ac yn esbonio iddynt sut y gallant gyflwyno’u gwaith; mae hyn yn cael ei rannu gydag eraill ar y cwrs ac wedi cael effaith anferth ar hyder y cyfranogwyr.

Yn ystod y cwrs ‘rydym yn annog y dysgwyr i drafod yn gyfeillgar a rhannu eu profiadau o ddefnyddio Word, PowerPoint a phecynnau eraill, ac yn gweithio tuag at greu ymwybyddiaeth ac hyder digidol. Mae llawer wedi dysgu mwy nag roeddent yn disgwyl gwneud o’r cwrs. Mae’r adborth wedi bod yn bositif, ac mae llesiant gwytnwch wedi cynyddu e.e. Dysgwr 1 – sgȏr llesiant ar ddechrau’r cwrs – 39, ar y diwedd – 43.

Mae ein cyllid Ymddiriedolaeth Thomas Walls yn dod i ben ym mis Awst 2021. Mae wedi ein galluogi i uwchsgilio llawer o unigolion a dod â sgiliau a chyfleoedd digidol newydd i lawer o bobl. Diolch yn fawr!

Hyfforddiant Gwytnwch Proffesiynol

Mae COVID wedi rhoi llawer o gyfleoedd i CYCA i dyfu a datblygu ein model busnes. Mae un o’n nodau hirdymor, cyffredinol, sef darparu hyfforddiant proffesiynol ledled Cymru wedi’i wireddu. ‘Rydym wedi hyfforddi gweithwyr proffesiynol o bob cwr o Gymru, y diweddaraf ohonynt ym Machynlleth. 

Mae ein Hyfforddiant Gwytnwch Proffesiynol wedi’i wahaniaethu ac wedi’i gynllunio i ystyried y strwythur a’r rolau ymhob mudiad.  ‘Rydym yn cynnig hyfforddiant o’r brig i lawr- mae’r Rheolwyr Hŷn a’r Timau Arwain yn astudio Gwytnwch Achrededig, a staff y rheng flaen y fersiwn anachrededig. ’Rydym yn dewis cynnig hyfforddiant yn y ffordd yma am y rheswm canlynol – os oes gan y mudiad cyfan iaith wydn newydd gall rheolwyr gefnogi a goruchwylio eu cydweithwyr gyda gwytnwch. Mae cefnogaeth cymar wrth gymar yn ffordd effeithiol  o gynnal eraill. 

Am ragor o wybodaeth ewch i……..

Rydym hefyd yn darparu Cwrs Profedigaeth Sefydliad y Co-op, sy’n cynnig cymorth cwnsela i bobl ifanc rhwng 13 ac 20 mlwydd oed. Mae hyn yn cael ei ddarparu drwy gefnogi a galluogi mentora gan gyfoedion. 

Am wybodaeth ynghylch y prosiect hwn, neu unrhyw un o’n prosiectau, cysylltwch â Lianna: lianna@cycaonline.orgos gwelwch yn dda.

Cookie Notice

This website stores data such as cookies to enable important site functionality including analytics. You may alter your preferences at any time or accept the default settings. Learn more here

Back to top