Yn ystod y cyfnod heriol hwn, mae CYCA yn parhau i ddarparu amrywiaeth o wasanaethau i’r rhai mwyaf anghenus. Rydym yn darparu nifer o wasanaethau o bell, gan gynnwys hyfforddiant, mentora a chwnsela, a hynny dros Skype, Zoom neu WhatsApp. Mae ein llinellau cymorth hefyd yn agored, a byddwn yn gwneud ein gorau i gysylltu ’nôl ag unrhyw un sy’n cysylltu â ni.

Mae staff ein meithrinfa wedi bod yn brysur yn darparu gweithgareddau dyddiol i’r plant iau, ac rydym yn falch o gynnig adnoddau ychwanegol ar gyfer plant ar ein gwefan newydd.

At hynny, rydym wedi datblygu gwybodaeth ac adnoddau ar gyfer gweithwyr proffesiynol, staff a rhieni, tudalen Lles sy’n cynnwys myfyrdodau, offer ar gyfer llesiant a thechnegau anadlu, ynghyd â gwybodaeth am ein cynnig o hyfforddiant rhithwir.

Yn ystod y cyfnod digynsail hwn, rydym yn eich annog i gadw’n gryf ac yn gadarnhaol. Bydd plant yn synhwyro pryder rhiant, felly rydym yma i’ch helpu i reoli hynny.

Mae staff CYCA yn parhau i weithio bob dydd. Os oes gennych ymholiad, anfonwch neges e-bost atom ar support@cycaonline.org

Tracy Pike, MBE
CEO

Hyfforddi a Dysgu

Yma yn CYCA rydym wedi gorfod addasu’n gyflym i’r ffordd yr ydym yn ymgysylltu â’n cymuned. Rydym ’nawr yn cynnig gwasanaeth cwnsela, hyfforddiant a gwasanaethau cymorth eraill o bell. Isod ceir rhai enghreifftiau o’r hyn yr ydym yn ei wneud i’ch cefnogi.

Cymorth llesiant

Mae ein Cwnselydd, Gwilym, ynghyd â thîm CYCA, yn rhannu negeseuon ac arweiniad â chi, a hynny er mwyn eich helpu i greu amgylchedd hapus ac iach yn y cartref yn ystod y cyfyngiadau symud.

Plant a phobl ifanc

Mae gorfod addysgu yn y cartref yn ystod y cyfnod hwn yn gallu bod yn heriol. Rydym wedi gofyn i aelodau o’n tîm hyfryd rannu flogiau i ddiddanu ac addysgu. Gobeithiwn y byddwch chi a’ch plant yn eu mwynhau ac yn dysgu ohonynt!

Gallwch hefyd weld y gwaith celf y mae ein plant talentog wedi ei rannu ar ein Wal Gelf. Mae croeso i chi anfon atom unrhyw beth yr hoffech ei arddangos.

yn ystod y Cyfyngiadau Symud

Ffitrwydd

Tra ein bod i gyd yn gaeth i’r tŷ, mae angen i ni ofalu am ein lles corfforol, yn ogystal â’n lles meddyliol ac emosiynol. Dyma ychydig o flogiau defnyddiol i roi ysbrydoliaeth i chi gartref.

Eich adborth

Mae eich adborth yn bwysig i ni; eich cefnogi chi sy’n ein hysgogi i godi o’r gwely yn y bore, ac mae clywed am y modd y mae rhai ohonoch wedi cofleidio’r cyfleoedd hyn wedi bod yn ysbrydoledig.
Diolch i Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol am ei herthygl ddiweddar amdanom: Y Modd y mae Cymdeithas Ieuenctid a Phlant Sir Gaerfyrddin (CYCA) yn addasu i COVID-19.

Wal o’ch Celf chi

Wal Gelf

Mae’r dudalen hon yma i arddangos eich gwaith chi.
Ewch ati i rannu eich gwaith celf, eich crefftau a’ch dyluniadau â ni er mwyn ysbrydoli eraill.

Adnoddau

Rydym wedi casglu adnoddau diddorol ynghyd o wahanol ffynonellau. Byddwn yn parhau i ychwanegu atynt. Gobeithiwn y byddwch yn eu cael yn ddefnyddiol.

Cookie Notice

This website stores data such as cookies to enable important site functionality including analytics. You may alter your preferences at any time or accept the default settings. Learn more here

Back to top